Cyfarwyddwr Strategol, Dysgu, Sgiliau a'r Economi yng Nghyngor Sir Fynwy
Will McLean
Mae gan Will McLean brofiad helaeth yn sgîl gyrfa sy’n rhychwantu’r sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru. Mae wedi gweithio ar lefel uwch mewn llywodraeth leol, ranbarthol, a chenedlaethol ac mae ganddo brofiad o weithio ac arwain gwaith cymheiriaid.
Ar hyn o bryd ef yw Cyfarwyddwr Strategol, Dysgu, Sgiliau a’r Economi yng Nghyngor Sir Mynwy. Yn y rôl hon mae’n arwain 35 o ysgolion y sir ac amrediad o wasanaethau eraill i gefnogi plant a phobl ifanc yn ogystal ag arwain ym maes yr Economi, Cyflogaeth a Sgiliau. Cyn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros y gwasanaeth addysg, bu’n gyfarwyddwr rhaglen yr awdurdod yn dilyn adroddiad arolygiad beirniadol. Daeth yr awdurdod allan o fesurau arbennig a derbyn adroddiad positif yn 2020. Yn ystod ei ddeiliadaeth, mae’r awdurdod wedi cyflenwi rhaglen £90m o adeiladu ysgolion newydd ac wedi rhesymoli a moderneiddio ei ddarpariaeth ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, yn enwedig y sawl ag anghenion emosiynol a chymdeithasol o ran ymddygiad. Yn ogystal, mae’n arwain gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng yr Awdurdod. Mae wedi arwain amrediad o wasanaethau corfforaethol yn Sir Fynwy gan gynnwys cynllunio strategol, rheoli perfformiad, datblygu polisi a gwasanaethau democrataidd.
Cyn cyrraedd yn Sir Fynwy, arweiniodd raglen o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru. Ffocws ei rôl oedd hyrwyddo rhagor o gydweithio ar draws gwasanaeth cyhoeddus Cymru.
Mae ei brofiad o lywodraeth leol yn deillio o weithio i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) fel arweinydd gwelliant corfforaethol, rôl a oedd yn golygu cefnogi awdurdodau lleol ledled Cymru i ddod yn well wrth wynebu heriau arweinyddiaeth a sicrhau bod llywodraethu da yn ganolog i’w gwaith. Cyd-reolodd fwrdd ymyrraeth Llywodraeth Cymru mewn awdurdod wrth iddo ymadfer o adolygiad hynod feirniadol o’i wasanaethau cymdeithasol.
Yn ystod ei amser yn CLlLC, sefydlodd ac arweiniodd gyfres o adolygiadau cymheiriaid ariannol a chorfforaethol, a hynny gyda’r nod o asesu pa mor barod roedd awdurdod am heriau ariannol y tymor canolig a gallu’r sefydliad i weddnewid.
Dechreuodd ei yrfa fel arbenigwr gwasanaeth cyhoeddus yn PriceWaterhouseCoopers. Bu’n gweithio mewn gwasanaethau sicrwydd ac ymgynghori ledled Cymru a Lloegr.