Cyfarwyddwr Ansawdd a Chydymffurfiaeth ar gyfer Educ8
Kathryn Wing
Kathryn yw Cyfarwyddwr Ansawdd a Chydymffuriaeth i Educ8 gan reoli tîm profiadol, sy’n ymroi i gyflawni rhagoriaeth.
Er bod gan Kathryn brofiad helaeth mewn arwain cymwysterau, mae’n arbenigo hefyd mewn sicrhau ansawdd a rheoli cylch ansawdd cadarn ac effeithiol. Mae’n hyrwyddo’n gyson arloesiadau ym maes technegau ymgysylltiol mewn addysgu, dysgu ac asesu.
Mae Kathryn wedi symud o gwmpas amrywiol rolau yn ei gyrfa 20 mlynedd ym maes Dysgu Seiliedig ar Waith, gan gychwyn fel prentis ei hunan, ond canfu mai maes ansawdd oedd ei diddordeb pennaf.
Mae Kathryn wedi ymrwymo i Ddysgu Seiliedig ar Waith ac yn hynod o angerddol amdano. Wedi gweithio ochr yn ochr ag ystod o raglenni a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, cred yn gryf yn y manteision y gall Twf Swyddi Cymru+ a rhaglenni prentisiaeth eu cynnig, yn enwedig wrth gynnig dewis amgen gwirioneddol i addysg bellach ac uwch i bobl ifanc sy’n dod i mewn i’r diwydiant.