...
Rheolwr Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol

Richard Tobutt

Mae Richard yn gweithio fel Rheolwr Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ac yn arwain ar ymgysylltu â chyflogwyr ar draws y sectorau Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Adeiladu a Thechnoleg Ddigidol.

Mae Richard wedi cael profiad helaeth yn gweithredu o fewn y maes addysg, dysgu gydol oes a sgiliau ac mae wedi datblygu perthnasoedd effeithiol gyda'r Llywodraeth (a'i hasiantaethau), rhanddeiliaid, cyflogwyr a darparwyr addysg a hyfforddiant.

Ar ôl cwblhau Gradd Meistr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd cafodd swydd o fewn llywodraeth leol. Fel Darlithydd, enillodd hefyd wybodaeth a dealltwriaeth o gymwysterau a hyfforddiant a chyflwynodd elfennau ymarferol a damcaniaethol rhai rhaglenni BTEC, Lefel A ac NVQ.

Yna bu Richard yn arloesi gyda gwaith Skills Active, y Cyngor Sgiliau Sector (CSS) ar gyfer Hamdden Heini, Dysgu a Lles. Yma, bu’n arwain datblygiad y Cyngor Sgiliau Sector yng Nghymru am ymhell dros ddegawd cyn cymhwyso ei sgiliau ar draws y Gweinyddiaethau Datganoledig fel Pennaeth Datblygu Cartref y Wlad Gartref. Sicrhaodd Richard fewnfuddsoddiad i ysgogi rhaglenni sgiliau a arweinir gan gyflogwyr gan gynnwys datblygu amrywiol Fframweithiau Prentisiaeth a Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS).

Cyn dechrau ar ei swydd gyda Phartneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRSP), bu’n gweithio ar lefel Cyfarwyddwr i ddarparwr dysgu seiliedig ar waith mewn sefyllfa dda ac mae hefyd wedi gweithredu fel ymgynghorydd sgiliau ar ei liwt ei hun.