...
Uwch Reolwr Sgiliau a Chyflogadwyedd

Angela West

Dechreuodd Angela ei gyrfa yn y gadwyn gyflenwi ryngwladol a logisteg, gan ennill dros 25 mlynedd o brofiad yn y sector addysg yn ddiweddarach gan weithio mewn gyrfaoedd, dysgu seiliedig ar waith, addysg bellach ac uwch.

Fel arweinydd polisi ar gyfer prentisiaethau gradd gyda CCAUC, bu'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r rhaglen yng Nghymru.  Eisteddodd ar fyrddau cynghori gan gynnwys Bwrdd Sgiliau Economaidd Cymru, Bwrdd Cynghori ar Brentisiaethau Cymru a'r grŵp llywio Hynt Graddedigion, ac mae'n cyfrannu at bolisi, ymchwil a chyhoeddiadau ar lefel genedlaethol a DU.

Yn Medr, y comisiwn newydd ar gyfer ariannu a rheoleiddio'r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, mae Angela yn Uwch Reolwr Sgiliau a Chyflogadwyedd.  Mae'n gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid i gyflawni blaenoriaethau yng nghynllun strategol y comisiynau i ddysgwyr ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ar gyfer economi sy'n newid.