...
Rheolwr Datblygu, FSB Cymru

Rob Basini

Mae Rob wedi gweithio mewn busnesau bach ac o’u cwmpas yn Ne Cymru ers mwy na 30 mlynedd. Ar ôl graddio o Ysgol Busnes Caerdydd, aeth Rob yn ei flaen wedyn i fod yn berchen-reolwr ar sawl busnes yng Nghaerdydd a’r Cymoedd. Yn dilyn cyfnod o ddatblygu busnesau a sefydliadau bach yn Affrica ac wedyn yn Llundain, dychwelodd Rob i Dde Cymru, lle bu’n cefnogi busnesau mewn gwahanol gyd-destunau am y 10 mlynedd diwethaf, yn fwyaf diweddar fel Rheolwr Datblygu i’r Ffederasiwn Busnesau Bach. Mae Rob yn angerddol am ddatblygu busnesau bach ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.