...
Rheolwr Gyfarwyddwr Technoleg Connected

Avril Lewis

Avril Lewis MBE yw Rheolwr Gyfarwyddwr Technology Connected, llais cyfunol diwydiant technoleg bywiog Cymru.

Ers cael ei phenodi yn 2012, mae Avril wedi chwarae rôl ganolog mewn codi proffil y sefydliad, gan uno, hybu, ac eiriol dros dechnoleg Cymru. O dan ei harweinyddiaeth hi, mae Technology Connected yn amlygu Cymru fel canolbwynt arbenigedd mewn technolegau galluogi a rhai sy’n dod i’r amlwg, gan ddangos eu cymwysiadau trawsnewidiol ar gyfer busnes a chymdeithas fodern.

Yn arweinydd â gweledigaeth, arweiniodd Avril lansiad Rhwydwaith Technology Connected ym Mehefin 2024, menter sy’n cryfhau ymdrechion cydweithredol y diwydiant ymhellach. Mae’r Rhwydwaith yn cysylltu gweithwyr proffesiynol, diwydiannau, a thechnolegau ar draws ecosystem technoleg, gan feithrin arloesi, twf busnes, ac adeiladu dyfodol mwy ffyniannus a chynhwysol i dechnoleg Cymru.

Avril yw’r sbardun hefyd tu ôl i sawl menter flaenllaw arwyddocaol, gan gynnwys Wythnos Technoleg Cymru, yr uwchgynhadledd technoleg ryngwladol fwyaf yng Nghymru, sy’n bwrw goleuni ar dechnoleg y wlad ac yn tanlinellu pwysigrwydd hanfodol mabwysiadu technoleg ar gyfer arloesi a thwf economaidd. Yn ogystal, sefydlodd Wobrau Technoleg Cymru uchel eu parch, sy’n dathlu cyflawniadau diwydiant technoleg Cymru, a’r Technology Leadership Council, fforwm sy’n dod ag arweinwyr diwydiant dylanwadol ynghyd i eiriol ar ran y sector.

Mae ei harweinyddiaeth hi wedi gweld sefydlu gweithgorau arbenigol hefyd o fewn Technology Connected, fel y Blockchain Council, Photonics Council, a Data & AI Council, sy’n bwriadu hybu mabwysiadu a thyfu technolegau sydd ar flaen y gad yng Nghymru a’r tu hwnt.

Cyn ei rôl bresennol, treuliodd Avril ei gyrfa gynnar mewn gwasanaethau proffesiynol cyn ymuno â’r diwydiant lled-dargludyddion lle cwblhaodd bryniant llwyddiannus gan reolwyr ac yn y pen draw werthiant busnes rhyngwladol.

Yn eiriolwr hir-sefydledig dros dechnoleg Cymru, cafodd ei chydnabod am ei chyfraniad gydag MBE yn 2018 am wasanaethau i’r diwydiant technoleg yng Nghymru.