Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn arwain/llefarydd ar gyfer Arweinyddiaeth Ddigidol
Dimitri Batrouni
Daeth y Cynghorydd Dimitri Batrouni yn Arweinydd Cyngor Casnewydd ym mis Mai 2024, mae wedi gwasanaethu fel Cynghorydd ers mis Mai 2022 yng Nghasnewydd a chyn hynny fel Arweinydd yr wrthblaid mewn Cyngor arall ac fel Aelod Cabinet ar gyfer ystod o feysydd, gan gynnwys Trawsnewid Sefydliadol.
Dimitri yw arweinydd/llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Arweinyddiaeth Ddigidol.
Fel myfyriwr graddedig TG, mae gan Dimitri gefndir gwaith helaeth ac mae wedi gweithio yn Seneddau'r DU a Chymru mewn rolau uwch ymchwilwyr ac wedi darlithio gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Bryste.
Roedd Dimitri yn Uwch Ddadansoddwr i'r Awdurdod Monitro Annibynnol sydd ynghlwm wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder i fonitro Brexit a hawliau dinasyddion.