Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Penybont
Viv Buckley
Fel Pennaeth a Phrif Weithredwr yng Ngholeg Pen-y-Bont, mae Viv yn gyfrifol am arloesi cwricwlwm ac addysgu a dysgu, gan sicrhau safonau ac ansawdd ar draws lled pynciau Dysgu Seiliedig ar Waith, Addysg Bellach ac Addysg Uwch.
Mae’n gyfrifol am gynnal cynhedaeth y Coleg sef creu amgylchedd lle gall pawb fod ‘byddwch yn bopeth y gallwch fod’. Cafodd y Coleg ei enwi’n Goleg AB y Flwyddyn yn nyfarniadau TES 2019. Yn 2018 enillodd wobr Arwain Cymru am Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus. Yn 2022 enillodd aur yng nghategori Addysgwr Eithriadol, Gwobrau mewn Rhagoriaeth, World Federation of Colleges and Polytechnics. Wedi gweithio’n ddarlithydd addysg bellach ac uwch, mae gan Viv brofiad eang mewn hyfforddi actorion a pharatoi perfformwyr am hyfforddiant pellach.
Mae Viv wedi gweithio hefyd fel cyfarwyddwr theatr llawrydd ac ar hyn o bryd hi yw Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg.