Cydlynydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
Vikki Stroud
Mae rôl Vikki fel Cydlynydd y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer CCRSP yn cefnogi Rheolwyr y Bartneriaeth wrth gyflenwi’r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2022-2025 a gweithgareddau cysylltiedig ymgysylltu â chyflogwyr. Yn ogystal, mae Vikki yn arwain gwaith cydlynu Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Gyda chefndir amrywiol ym meysydd lletygarwch a gweinyddu chwaraeon, mae Vikki yn dod â chyfoeth o brofiad mewn gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli, ac arweinyddiaeth sefydliadol. Ar ôl dechrau ei gyrfa mewn lletygarwch yn 16 oed, symudodd Vikki ymlaen trwy amrywiol rolau, o weini ar fyrddau i Reolwr Gwerthu, ar ôl cwblhau gradd mewn Rheoli Gwestai Rhyngwladol. Yma, datblygodd Vikki ei sgiliau wrth reoli timau, trefnu digwyddiadau graddfa fawr, a hybu twf busnes.
Ar ôl cael 2 o blant, symudodd Vikki i mewn i’w rôl mewn gweinyddu chwaraeon gan oruchwylio gweithrediadau ar gyfer llawer o glybiau chwaraeon pwysig yng Nghaerdydd. Rheolodd bopeth o weinyddiaeth, marchnata, a chyllid i gynllunio a chydlynu digwyddiadau, gan gydweithredu â chyrff llywodraethu cenedlaethol.
Yn ystod datblygiad ei gyrfa yn y diwydiant lletygarwch, gweithiodd Vikki i’r Hospitality & Catering Training Company hefyd, darparwr dysgu seiliedig ar waith yn Ne-ddwyrain Cymru. Sbardunodd y rôl hon angerdd am ddysgu gydol oes ac yn enwedig yr angen i ddatblygu a hwyluso cynnydd oedolion ifanc i mewn i hyfforddiant a chyflogaeth.
Mae rôl Vikki yn ei gweld yn rhagori wrth gydgysylltu â chyflogwyr ar draws sectorau blaenoriaethol CCRSP ynghyd â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol, yn ogystal ag arwain cyfrifon cyfryngau cymdeithasol CCRSP.