...
Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) Cyflogwr ac Arweinydd Partneriaeth De Ddwyrain Cymru

Ian Mattey

Wedi ymgymryd â’r swydd ym Medi 2023, Ian yw Arweinydd Cyflogwyr a Phartneriaethau’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar gyfer De-ddwyrain Cymru, sy’n gyfrifol am nifer o dimau gan gynnwys Cynghorwyr Cyflogwyr, Rheolwyr Partneriaeth, Hyfforddwyr Gwaith Carchar, Cynghorwyr Cyflogaeth i’r Anabl, Timau Contractio a Thrydydd Parti, a Gweithwyr Allgymorth. Mae’r timau hyn yn cwmpasu ac yn cefnogi awdurdodau lleol Sir Fynwy, Casnewydd, Caerdydd, Bro Morgannwg, Caerffili, Merthyr, Blaenau Gwent a Thorfaen.

Mae Ian wedi gweithio i’r DWP a’i rhagflaenwyr am 35 o flynyddoedd, gan weithio mewn amrywiaeth o rolau yn bennaf yn y timau partneriaeth Allanol.

Mae Ian yn angerddol iawn am y DWP a’r cwsmeriaid a rhanddeiliaid mae’n eu cefnogi gan geisio bob amser meithrin cysylltiadau newydd sy’n galluogi pawb i wella’r gwasanaethau a ddarperir.