Creadigol

DISGRIFIAD O’R SECTOR

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael ei chydnabod fel un o ganolfannau Creadigol mwyaf y DU tu allan i Lundain. Gyda mwy na 1300 o gwmnïau cyfryngau, 600 ohoynt ym maes ffilm a theledu, yn cyfrannu tua £360 miliwn mewn Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) – mae’r sector wedi dod yn sbardun twf i economi’r rhanbarth. Wedi’i nodweddu gan gyfran fawr o unig fasnachwyr a gweithwyr llawrydd, mae’r sawl a gyflogir yn y sector Creadigol yn cyfrif am ryw 7% o weithlu’r rhanbarth ac yn cynrychioli un o grynodiadau cyflogaeth sectorol uchaf yn y DU. Ers 2016, mae 34% o’r holl swyddi newydd yn sector cyfryngau’r DU wedi’u lleoli ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Awgrymodd adroddiad ‘Clwstwr’ diweddar i Gymru fod 80% o weithgareddau diwydiannau creadigol wedi’u cronni yn Ne Cymru, gyda Chaerdydd wrth eu craidd.

 

Mae’r rhanbarth wedi dod yn fan lle mae cwmnïau a dawn greadigol yn ffynnu – canolfan gydnabyddedig am gynhyrchu teledu a ffilm, yn gartref i fusnesau sydd wedi ennill BAFTA, Emmy ac RTS sy’n achub y blaen yn greadigol gartref a thros y byd, gyda chysylltiadau masnach rhyngwladol sy’n tyfu ar garlam a mentrau hyfforddiant gweithlu arloesol.

 

Yn allweddol i dwf y sector Creadigol o fewn y rhanbarth, ac yn fwy penodol cynhyrchu teledu a ffilm, yw’r capasiti stiwdio o’r radd flaenaf yn stiwdios y BBC, Bad Wolf, Dragon a Seren i enwi dim ond rhai. Erbyn hyn mae’r rhanbarth yn un o’r cyrchfannau pennaf ar gyfer cynhyrchu teledu a ffilm; ac ar un adeg yn 2020 hwn oedd y canolbwynt cynhyrchu sgrin prysuraf yn Ewrop. Yn ogystal â theledu a ffilm, mae gan y rhanbarth gryfderau mewn cyfryngau darlledu, cynnwys digidol, cerddoriaeth gartref ac yn ymffrostio mewn sector gemau bywiog, cynyddol.

 
PRIF ROLAU SWYDD

• Actorion, diddanwyr a chyflwynwyr
• Swyddogion, cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr celfyddydau
• Rhaglenwyr a gweithwyr proffesiynol datblygu meddalwedd
• Rheolwyr arbenigol TG
• Newyddiadurwyr, golygyddion papurau newydd a chyfnodolion
• Ffotograffwyr, gweithredwyr offer clyweledol a darlledu
• Penseiri
• Dylunwyr graffig
• Cerddorion
• Cydlynwyr SFX/VFX
• Sinematograffwyr
• Perfformwyr styntiau
• Rheolwyr Lleoliadau
• Golygyddion / Golygyddion Sgriptiau / Goruchwylwyr

• Artistiaid Byrddau Stori

 

HERIAU A CHYFLEOEDD YN Y SECTOR

Nododd grŵp Clwstwr Creadigol Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y cyfleoedd a heriau canlynol ar gyfer Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau’r Bartneriaeth 2022-2025. 

• Parhau i ddatblygu strategaeth sgiliau gydlynus am y sector Creadigol, gan sicrhau ymgysylltiad â chynyrchiadau llai o faint er mwyn nodi eu heriau o ran sgiliau, a pharhau yn ymwwybodol o’r twf yn y diwydiannau gemau a cherddoriaeth fel ei gilydd.
• Archwilio’r potensial am raglen cysgodi gwaith benodol i’r sector Creadigol ledled Cymru i sicrhau ymagwedd gydlynus at brofiad gwaith ac at leoliadau hyfforddeion, a fydd yn cefnogi gwell hygyrchedd y sector i newydd-ddyfodiaid.
• Ehangu amrediad a hyblygrwydd hyfforddiant dysgu mewn cyfnodau byr a datblygiad Proffesiynol Parhaus sydd ar gael i’r gweithlu Creadigol trwy fentrau fel y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol, y Cynllun Rhannu Prentisiaeth a datblygu Academïau Sgiliau.

• Cynyddu defnydd Hysbysrwydd y Farchnad Lafur i nodi bylchau sgiliau, prinderau llafur a thueddiadau recriwtio ar draws y sector Creadigol, a llywio darpariaeth hyfforddiant ôl-16.

• Meithrin cysylltiadau cryfach â Cymru Greadigol i wella ymatebolrwydd y sector a’i ddiogelu at y dyfodol, am gynyrchiadau teledu a ffilm posibl o’r radd flaenaf sy’n ffilmio yn y rhanbarth.

• Ymchwilio ymhellach i anghenion sgiliau a’r gefnogaeth mae eu hangen ar gyfer rhith-gynyrchiadau ac integreiddio sgiliau o’r diwydiant gemau i gefnogi diwydiannau eraill o fewn y sector Creadigol.

• Gwella cydweithrediad o fewn y sector trwy amserlen gydlynus o gynyrchiadau sy’n cael eu ffilmio ar draws y rhanbarth ac sydd ar y gweill, sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd, er mwyn cynllunio am fylchau sgiliau a phrinderau llafur posibl, h.y. criw cynhyrchu.

• Mapio sgiliau trosglwyddadwy gweithlu Creadigol y rhanbarth er mwyn sicrhau cynaladwyedd gyrfaoedd o fewn y sector a lleihad mewn colli dawn allan o’r sector neu i ranbarthau eraill.

 
YMGYSYLLTIAD RHANDDEILIAID

• Screen Alliance Wales - https://www.screenalliancewales.com/
• Gorilla -  https://gorillagroup.tv/
• Prifysgol De Cymru  - https://www.southwales.ac.uk
• Mad Dog -  https://maddog2020casting.com/en/
• Sgil Cymru -  https://www.sgilcymru.com
• University of South Wales -  https://www.southwales.ac.uk
• Cyngor Dinas Caerdydd  -  https://www.cardiff.gov.uk
• Yetti Television -  https://yetitelevision.com
• IJPR Cymru - https://www.ijpr.co.uk/
• Cymru Greadigol  - https://www.creative.wales

• Coleg y Cymoedd - https://www.cymoedd.ac.uk
• S4C - https://www.s4c.cymru/en
• Ffilm Cymru Wales - https://ffilmcymruwales.com
• Dragon Studios - https://www.dragonstudioswales.com
• Swyddfa Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd -  - https://www.cardiffcapitalregion.wales
• Media Academy Cymru -  https://mediaacademycymru.wales