Rheolwr Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
Caryn Grimes
Mae Caryn yn cael ei chyflogi fel Rheolwr y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac mae’n arwain ar faes ymgysylltu â chyflogwyr ar draws y grwpiau clwstwr Creadigol, Economi Sylfaenol Ddynol ac Awdurdodau Lleol.
Cyn hyn roedd gan Caryn rôl Cydlynydd y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol am Bartneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gan gefnogi Rheolwyr y Bartneriaeth i arwain ymgysylltiad â chyflogwyr ar draws y sectorau blaenoriaethol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae gan Caryn brofiad gweithio helaeth yn y sectorau preifat a chyhoeddus ac mae wedi gweithio o fewn y diwydiant sgiliau, ac yn fwy penodol prentisiaethau, am fwy nag 20 mlynedd, gan gynnwys arwain cyflenwi’r contractau cyflogaeth a hyfforddiant o fewn y ardal hon.
I ddechrau cafodd Caryn ei chyflogi yng Nghyngor Dinas Casnewydd i helpu i hybu’r rhaglen cyflenwi prentisiaethau trwy waith yr Academi Dysgu Seiliedig ar Waith a hynny o fewn y cyngor ac yn allanol i gynhyrchu refeniw masnachol. Chwaraeodd Caryn ran fawr yn natblygiad Ymrwymiad Casnewydd a olygodd gydgysylltu â chyflogwyr o fewn y sectorau blaenoriaethol gan gynnwys partneriaid a rhanddeiliaid allanol.
Cyn ymuno â Chyngor Dinas Casnewydd, gweithiodd Caryn o’r blaen i ddarparwyr hyfforddiant blaenllaw ar draws y rhanbarth. Mae Caryn wedi cwblhau nifer o gymwysterau seiliedig ar waith sy’n cynnwys ILM ac mae’n rhannu angerdd am yr angen i ddatblygu a hwyluso cynnydd oedolion ifanc i mewn i hyfforddiant a chyflogaeth.