Technoleg Ariannol
DISGRIFIAD O’R SECTOR
Mae Technoleg Ariannol yn cyfuno technoleg a chyllid i newid y ffordd draddodiadol mae gwasanaethau ariannol yn cael eu cynnal. Mae Technoleg Ariannol yn newid sut mae cwmnïau yn gweithredu ac yn gweddnewid sut rydym yn trosglwyddo, benthyg, diogelu, a rheoli ein harian. Mae’r DU yn un o brif ganolfannau ariannol y byd, ac mae hefyd yn arwain ym maes Technoleg Ariannol, gyda gweithgarwch Technoleg Ariannol cynyddol ar draws y sector ariannol. Mae cwmnïau bach sydd newydd gychwyn, ac arloesi o fewn cwmnïau gwasanaethau ariannol mawr presennol, yn creu swyddi ac yn denu buddsoddiad. Mae ymchwil ar gyfer y DU yn awgrymu bod y sector wedi tyfu bellach o’i wreiddiau tarfol yn ddiwydiant a eneradodd, yn 2015, £6.6bn mewn refeniw ac a gyflogodd 61,000 o bobl.
Cymru sydd â’r economi ddigidol sy’n tyfu gyflymaf tu allan i Lundain, ac mae twf y sector ariannol a phroffesiynol yng Nghymru wedi arwain at ddiwydiant Technoleg Ariannol ffyniannus. Ar draws y rhanbarth, mae cwmnïau fel Admiral ymhlith y cyflogwyr mwyaf. Mae sefyllfa Technoleg Ariannol yng Nghymru bellach yn un o’r rhai mwyaf gweithgar yn y DU diolch i’w gronfa o ddawn arloesol a chyfleoedd buddsoddi cynyddol. Mae ecosystem technoleg ffynniannus Cymru, gyda’i chadwyn gyflenwi gynyddol a phrifysgolion entrepreneuraidd, yn cynnig sylfaen gadarn i Dechnoleg Ariannol ffynnu.
PRIF ROLAU SWYDD
Ymhlith y prif rolau swydd o fewn y sector mae:
• Rhaglenwyr a gweithwyr proffesiynol datblygu meddalwedd
• Gweithwyr proffesiynol dylunio a datblygu ar gyfer y we
• Peiriannydd seiberddiogelwch
• Peiriannydd cronfeydd data
• Peiriannydd gweinyddion
• Arbenigwr deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol
• Gwyddonydd data
• Datblygwr stac llawn
HERIAU A CHYFLEOEDD YN Y SECTOR
Nododd grŵp Clwstwr Technoleg Ariannol Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y cyfleoedd a’r heriau canlynol ar gyfer Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau’r Bartneriaeth 2022-2025.
• Gwella piblinellau sgiliau a dawn ac adeiladu ar ymagweddau at addysg, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd er mwyn hyrwyddo’r sector fel gyrfa hyfyw.
• Archwilio datblygiad posibl lleoliadau profiad gwaith o’r radd flaenaf mewn partneriaeth â chyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol.
• Datblygu Academïau a darpariaeth Bŵtcamp ymhellach a’u paru ag anghenion y sector Technoleg Ariannol.
• Gweithio i sicrhau bod Fframweithiau Prentisiaeth yn adlewyrchu anghenion y sector ac archwilio cyfleoedd pellach trwy Brentisiaethau Gradd a Rhannu Prentisiaeth.
• Croesawu cyfleoedd am gystadlaethau sgiliau Addysg Bellach ac archwilio ymgysylltiad posibl fel rhan o agenda World Skills UK.
• Gweithio gyda sefydliadau addysg uwch rhanbarthol i ddatblygu darpariaeth addas sy’n cyd-fynd yn agosach ag anghenion cyflogwyr Technoleg Ariannol.
• Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid i gefnogi hyfforddiant yn cyd-fynd ag anghenion sector.
• Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd a gyflwynir trwy agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
AELODAU’R CLWSTWR
FinTech Wales
Deloitte
Principality
Active Quote
Coin cover
Sonovate
Confused.com
Delio
Pepper money
Admiral