Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
DISGRIFIAD O’R SECTOR
Lled-ddargludyddion cyfansawdd sy’n darparu’r dechnoleg sy’n sail i lawer o gynhyrchion a chymwysiadau uwch-dechnoleg heddiw gan gynnwys ffonau clyfar, synwyryddion, a chyfathrebu ffeibr optig. Maent yn gweithredu ar gyflymderau sy’n gyflymach na lled-ddargludyddion traddodiadol seiliedig ar silicon ac yn cynnig nodweddion ffotonig sy’n cael eu defnyddio mewn amrediad eang o dechnolegau synhwyrydd a chyfathrebu optegol. Maent yn gydran hanfodol technolegau sy’n dod i’r amlwg o gysylltedd 5G i awtomeiddio diwydiannol a cherbydau di-yrwr.
Mae’r sector yn flaenoriaeth i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ehangach sy’n gartref i gyflogwyr mawr y sector ar hyd coridor yr M4. CSconnected yw clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd a’r brand cyfunol am nifer cynyddol gwmnïau lled-ddargludydd uwch gan gynnwys IQE, KLA, Microchip, MicroLink Devices UK, nexperia a Rockley Photonics. Ond mae’r gadwyn gyflenwi sy’n porthi’r sector hwn a’r diwydiannau cysylltiedig yn estyn llawer ymhellach. Yn gyfan gwbl, mae mwy na £500m yn cael ei fuddsoddi yn y Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd gyda buddsoddiad Prifysgol Caerdydd, Llywodraethau Cymru a’r DU, a diwydiant lleol.
PRIF ROLAU SWYDD
Mae rolau swydd allweddol o fewn y sector yn cynnwys:
• Rheolwyr Cynhyrchu
• Technegwyr Peirianneg
• Trydanwyr a Gosodwyr Trydanol
• Cydosodwyr (cydrannau trydanol ac electronig)
• Gosodwyr Peiriannau a Gosodwyr-gweithredwyr
• Technegwyr Datblygu Cynhyrchion
• Technegwyr Cyfleusterau
• Technegwyr Graddnodi
• Peirianwyr Ansawdd
HERIAU A CHYFLEOEDD YN Y SECTOR
Nododd grŵp Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y cyfleoedd a heriau canlynol ar gyfer Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau’r Bartneriaeth 2022-2025:
• Parhau i ddatblygu cymwysterau priodol mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol i helpu i fynd i’r afael â phrinderau sgiliau.
• Gweithio i sicrhau bod Fframweithiau Prentisiaeth (gan gynnwys Prentisiaethau Gradd) yn adlewyrchu anghenion y sector ac yn ategu prosesau cyflenwi.
• Hyrwyddo cysylltiadau strategol rhwng y sector a Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch (gan gynnwys cynhyrchion fferyllol, modurol a hedfanaeth) i gefnogi newid a/neu ddatblygu gyrfa.
• Cefnogi cyflenwi gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus CS Connected a’r cynllun gwaith cysylltiedig.
• Adeiladu ar yr ymagweddau effeithiol at addysg gyrfaoedd, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i hybu’r sector fel opsiwn gyrfa hyfyw.
• Cefnogi datblygiad gweithlu cynhwysol a chynyddu nifer y menywod sy’n ymuno â’r farchnad lafur.
• Gweithio mewn partneriaeth i ymchwilio i fylchau a phrinderau sgiliau a datblygu dulliau arloesol a chydweithredol o ymdrin â heriau a welir.
• Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i sicrhau bod cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant yn cyd-fynd ag anghenion y sector.
YMGYSYLLTIAD RHANDDEILIAID
Mae Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymgysylltu’n strategol â:
CS Connected https://csconnected.com/
IQE https://www.iqep.com/
SPTS https://www.spts.com/
Catapult https://csa.catapult.org.uk/
Microchip https://www.microchip.com/
KLA https://www.kla.com
Prifysgol Caerdydd https://www.cardiff.ac.uk/
Coleg Gwent https://www.coleggwent.ac.uk/
Coleg Merthyr https://www.merthyr.ac.uk/
CAVC https://cavc.ac.uk/en
Coleg Caerdydd a’r Fro https://www.cardiffmet.ac.uk
Prifysgol Metropolitan Caerdydd https://www.southwales.ac.uk
Prifysgol De Cymru https://www.open.ac.uk/wales/en
Coleg Pen-y-bont https://www1.bridgend.ac.uk/
NDGTA https://ndgta.org/
Coleg Y Cymoeed https://www.cymoedd.ac.uk
ICS https://www.iscwales.com/