Economi Sylfaenol Ddynol - Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth

Economi Sylfaenol Ddynol - Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth

Mae’r sectorau Twristiaeth a Lletygarwch yn gyfranwyr mawr at economi Cymru a’i rhanbarthau, gan gyfrif am tua 5.0% o Werth Ychwanegol Gros (GVA) yng Nghymru (£3.4 biliwn). Yn 2020, cyflogai’r sectorau hyn tua 151,000 o bobl ledled Cymru, lleihad o’r 161,000 yn 2019 yn ystod cyfnod pan arhosodd lefelau cyflogaeth cyffredinol yng Nghymru yn ddi-newid. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cyflogaeth yn y sectorau Twristiaeth a Lletygarwch fel cyfran o’r holl gyflogaeth yng Nghymru wedi amrywio. Mae’r ffigurau diweddaraf yn awgrymu bod mwy o fusnesau Lletygarwch yn y rhanbatrh nawr na phan ddechreuodd y pandemig, gyda llawer o weithredwyr bach yn ymuno â’r farchnad.

Bu’n fwyfwy anodd i’r sectorau Twristiaeth a Lletygarwch recriwtio, yn rhannol oherwydd dewisiadau eraill sydd yn ôl pob golwg yn talu’n well. Awgrymodd baromedr Twristiaeth diweddaraf Llywodraeth Cymru mai Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, o’i chymharu â rhanbarthau eraill yng Nghymru, sydd wedi ei chael yn fwyaf anodd ymadfer i lefelau cwsmeriaid cyn-Covid. Mae Croeso Cymru wedi cydnabod hefyd bod problemau gyda hunaniaeth brand Cymru a’r ddelwedd wael gyffredinol o’r sectorau Twristiaeth a Lletygarwch ac yn ddiweddar mae wedi lansio ymgyrch farchnata i gyflwyno Cymru fel cyrchfan gydol y flwyddyn.

Mae’r sector Manwerthu yn un o’r cyflogwyr sector preifat mwyaf yng Nghymru, gan gyflogi tua 114,000 o bobl ac yn cyfrif am 6.0% o GVA Cymru. Roedd adroddiadau bod y sector yn lleihau hyd yn oed cyn pandemig COVID-19, sydd wedi cael effaith sylweddol ar y sector, ond mae yng nghanol cael ei ailddyfeisio. Mae ein dull o siopa’n newid, mae rôl y siop yn esblygu, ac mae’r cyfleoedd cyflogaeth yn newid.

Yn ôl data EMSI, y rolau sy’n cael eu hysbysebu amlaf o fewn y rhanbarth am y sectorau hyn yw; Cynorthwywyr Gwerthu a Manwerthu (18.9%), Cynorthwywyr Cegin ac Arlwyo (8.2%), Staff Bar (6.5%), Gweinyddion (5.6%), Derbynyddion Arian Manwerthu a Gweithredwyr Desg Dalu (4.1%).

PRIF ROLAU SWYDD
  • Cynorthwywyr gwerthu a manwerthu
  • Derbynyddion arian manwerthu a gweithredwyr desg dalu
  • Goruchwylwyr gwerthu
  • Rheolwyr a chyfarwyddwyr ym maes manwerthu a chyfanwerthu
  • Cynorthwywyr fferyllfa a chynorthwywyr dosbarthu eraill
  • Galwedigaethau gwasanaeth cwsmeriaid
  • Gyrwyr fan
  • Gweithwyr proffesiynol cysylltiol marchnata
  • Cogyddion
  • Cynorthwywyr cegin ac arlwyo
  • Clercod a chynorthwywyr rheoli stoc
HERIAU A CHYFLEOEDD YN Y SECTOR

Nododd grŵp clwstwr Addysg Bellach ac Uwch Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y cyfleoedd a heriau canlynol ar gyfer Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau’r Bartneriaeth 2022-2025:   

  • Codi proffil Prentisiaethau o fewn y sector Lletygarwch a sicrhau bod fframweithiau coginiol yn addas at ddiben bodloni tueddiadau’r diwydiant yn y dyfodol.
  • Gwella cyfleoedd profiad gwaith ar draws y sectorau Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth i bobl ifanc mewn ymgais i leihau prinderau sgiliau presennol a chwalu canfyddiadau negyddol o yrfaoedd yn y sectorau hyn.
  • Cynyddu defnydd Hysbysrwydd y Farchnad Lafur i nodi bylchau sgiliau, prinderau llafur a thueddiadau recriwtio ar draws y sectorau Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth a llywio darpariaeth hyfforddiant ôl-16.
  • Ehangu amrediad a hyblygrwydd cyfnodau dysgu byr a hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus sydd ar gael i weithluoedd y sector Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth trwy fentrau fel y rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol.
  • Gweithio mewn partneriaeth â darparwyr hyfforddiant a rhaglenni cyflogadwyedd i hyrwyddo pwysigrwydd bod angen y ‘sgiliau sylfaenol’ ar newydd-ddyfodiaid i’r Sectorau Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth yn y dyfodol ar gyfer diwydiannau sydd â’u ffocws ar gwsmeriaid, ynghyd â meddu ar y cymwysterau priodol.
  • Edrych ar ddulliau arloesol o gyflenwi hyfforddiant a chymwysterau i ddiwallu bylchau sgiliau a heriau recriwtio’r sectorau, fel Academïau Sgiliau a Cynlluniau Rhannu Prentisiaeth.
  • Parhau yn ymwybodol o’r bylchau sgiliau am Gogyddion a Therapyddion Sba a Harddwch a sicrhau bod y sectorau Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth yn parhau i gael eu cydnabod fel cyfrannwr allweddol at Economi Sylfaenol Cymru.
  • Sefydlu llwybrau mwy effeithiol rhwng diwydiant ac addysg bellach er mwyn hyrwyddo pontio dysgwyr Addysg Bellach (AB) i mewn i’r sectorau Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth, yn enwedig i mewn i Brentisiaethau.
  • Adeiladu ar yr ymagweddau effeithiol at addysg gyrfaoedd, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i ymdrin â phroblemau canfyddiad o’r sector a hybu’r sectorau Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth fel opsiynau gyrfa hyfyw.
YMGYSYLLTIAD RHANDDEILIAID