Cyfarwyddwr, CS Connected
Chris Meadows
Dechreuodd gyrfa Chris mewn electroneg a lled-ddargludyddion yn Labordai Ymchwil British Telecom cyn ymuno â chyd-fenter newydd rhwng BT a DuPont yn yr Unol Daleithiau ym 1986.
Roedd Chris yn rhan o dîm sefydlu Epitaxial Products International Ltd (EPI) yng Nghaerdydd ym 1988 a aeth yn IQE ccc ym 1999 yn dilyn IPO llwyddiannus.
Gyda chefndir ym maes gwyddoniaeth a pheirianneg, mae gan Chris MBA hefyd ac mae wedi dal nifer o swyddi rheoli uwch o fewn Grŵp IQE.
Ar hyn o bryd Chris yw Cyfarwyddwr CSconnected, gan gynrychioli clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd sy’n gyflym esblygu ar draws De Cymru a Gorllewin Lloegr.