Rob Davies

 

Rob yw arweinydd gweithredol Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu yng Nghymru ac mae wedi meithrin gwybodaeth ac arbenigedd helaeth mewn Prentisiaethau, datblygu’r gweithlu, a Chymwysterau. Gyda gwybodaeth marchnad lafur CITB ac ymgysylltiad gweithredol â chwmnïau, mae Rob yn gallu darparu mewnwelediad gwerthfawr i beth yw anghenion sgiliau’r diwydiant Adeiladu nawr, a beth sydd ei angen arno ar gyfer y dyfodol.


Mae Rob hefyd yn gadeirydd Grŵp Clwstwr Adeiladu CCRSP sy’n cynnwys cyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol ar draws y sector Adeiladu. Trwy arweinyddiaeth Rob, mae’r grŵp yn chwarae rhan weithredol wrth lunio’r dirwedd cymwysterau ôl-16 ar gyfer y sector Adeiladu ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol wrth fynd i’r afael â bylchau a phrinder sgiliau a wynebir gan gyflogwyr.