Cadeirydd Gweithredol, Diwydiant Cymru
James Davies
Wedi ei eni ar Benrhyn Gŵyr a graddio o Brifysgol Abertawe (Peirianneg Fecanyddol), bu’n gweithio am 32 o flynyddoedd yn CalsonicKansei (cyflenwr Modurol Haen 1) yn y DU, Ewrop a Siapan, gan arwain eu Hadran Rheoli Thermol ($2.5bn).
Yn Ebrill 2017, aeth yn CEO Diwydiant Cymru (cwmni a chorff hyd braich i Lywodraeth Cymru), i ddod â llais diwydiant Technoleg, Peirianneg a Gweithgynhyrchu i Lywodraeth Cymru a Rhanddeiliaid y DU, gan drafod pob sector gan gynnwys cyfrifoldeb dros dri fforwm sector diwydiant – Electroneg/Meddalwedd (Technology Connected), Modurol (WAF) ac Awyrofod (AWF).
Yn Aelod o Gyngor CCAUC, mae’n eistedd ar Grwpiau Strategaeth Rhanbarthol fel Bwrdd Strategaeth Economaidd Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Phartneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Yn ddiweddar mae wedi cwblhau cyfnodau ar y Bwrdd Cynghori Gweinidogol dros yr Economi a Thrafnidiaeth yng Nghymru, Tasglu’r Cymoedd a Chomisiwn Burns i hyrwyddo materion Traffig De-ddwyrain Cymru.