Nicola Somerville

 

Mae Nicola yn Bennaeth Datblygu Busnes a Thwf Cynhwysol, sy’n golygu ei bod yn gyfrifol am nodi cyfleoedd busnes newydd, ymgysylltiadau rhyngwladol. Mae Nicola yn goruchwylio cyflenwi sgiliau ac yn cefnogi’r partneriaethau  ar draws rhwydwaith y fargen ddinesig, gan sicrhau bod ‘cyfle’ yn cael ei ymgorffori ym mhob buddsoddiad sy’n cael ei wneud.

 

Mae Nicola wedi gweithio ar draws y trydydd sector a’r sector cyhoeddus, gan arwain ar dai, adfywio a datblygiad economaidd, yn Ne-ddwyrain Cymru yn bennaf. Gydag angerdd am ymgysylltu ar lawr gwlad a thyfu ein cymunedau’n ganolfannau bywiog ffyniannus, mae Nicola yn gwirfoddoli dros brosiectau lleol ledled ei thref enedigol Casnewydd. Ar hyn o bryd, Nicola yw Cadeirydd Cartrefi Dinas Casnewydd lle mae wedi arwain y sefydliad i fod ymhlith y cymdeithasau tai â’r performiad ariannol gorau yng Nghymru (a’r DU, o bosib!), ac yn ogystal mae Nicola wedi cyfrannu a chyfranogi mewn llawer o grwpiau tasg penodol i Lywodraeth Cymru, yn fwyaf diweddar Tasglu’r Cymoedd.

 

Gyda thair merch ifanc, mae bywyd yn llawn gliter a gwallgofrwydd, felly yn fwy neu lai fel penwythnos cywennod parhaol heb yr alcohol. Mae Nicola wedi ceisio coginio, wedi rhoi cynnig ar y gampfa, felly nawr mae hi wedi setlo ar wyliau ac anturiaethau newydd!