Deri Bevan

 

Mae Deri wedi gweithio ym mudiad yr undebau llafur ers mwy nag 20 mlynedd, gan ymgymryd yn bennaf â rolau polisi a chyflenwi ym maes dysgu a sgiliau’r gweithle.

 

Mae’n diwtor undeb llafur cymwysedig ac wedi bod yn aelod o nifer o fyrddau rhanbarthol a chenedlaethol dros y blynyddoedd. Mae hefyd wedi bod yn aelod gweithgar o grwpiau partneriaeth sgiliau rhanbarthol amrywiol a Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru yn y gorffennol.

 

Mae ei rôl bresennol fel Swyddog Polisi dros ddysgu a sgiliau i TUC Cymru yn golygu ymgysylltu ag undebau llafur, cyflogwyr a phartneriaid er mwyn datblygu polisi a strategaeth am undebau llafur ledled Cymru, cefnogi datblygiad rhaglenni dysgu yn y gweithle, yn ogystal â goruchwylio datblygiad parhaus Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF).